CaerdyddIsraddedig

325,600 o funudau – Eilir Gwyn, BA Perfformio

325,600 o funudau. Dyna sawl munud sydd mewn blwyddyn gorn, ond mae sawl ffordd arall o fesur hyd flwyddyn. Boed yn asesiadau, cwpanu Coffi, Neu’r nifer o nosweithiau hwyr da chi’n treulio yn cwblhau gwaith a hwnna fod fewn y bora wedyn.

Ond  un ffordd gallwn gyd fesur blwyddyn ydi drwy atgofion. Yn sicr mae yn rhai melys iawn gennai ar treulio chwe mis ar gwrs BA Perfformio yng Nghaerdydd. Tasa rhywun wedi deud wrtha i ar ddechrau’r flwyddyn y byddwn yn canu “Wilkmoen” o “Cabaret” yn  Nho Canolfan y Mileniwm, neu fy mod am ymarfer anadlu a phedwar llyfr a chyfrifiadur ar fy mol, heb sôn am adeiladu llwyfan gyfan ar gyfer cynhyrchiad Nadolig. Wel swni mwy na thebyg wedi rhedeg yn bell!

Dyma yn union a ddigwyddodd a hynny cyn y Nadolig! Rwyf bellach ar fin dechrau Lefel 5 y cwrs. Oherwydd mai cwrs dwy flynedd yw BA Perfformio rydym yn cwblhau Lefel 4 erbyn Pasg y flwyddyn gyntaf. Ond wrth edrych yn ôl ar Lefel 4 tybed pa un o’r atgofion melys ac ar brydiau gwallgof yma sydd yn aros yn y cof fwyaf?

Mae’n deg dweud mai cael perfformio  rhannau allan o ddrama Pridd gan Aled Jones Williams, a “M.C” o’r sioe gerdd “Cabaret” dan gyfarwyddwyd Dave Taylor fyddai  un o fy atgofion cynharaf. Roedd yna lawer o hwyl yw gael yn yr ymarferion gan fod pawb a monolog neu ddeialog penodol yw gwneud, a phob un o rhain o ddramâu gwahanol. Golygai hyn wrth gwrs nad oedd neb wedi gweld gwaith yw gilydd tan ryw dridiau cyn y sioe. A pham hynna meddwch chi wel, modiwl theatr absẃrd oedd hon a drwy gadw pawb ar wahân roedd y cynhyrchiad llawer fwy ffres a diddorol gawni ddeud. Dim ond y darn dawnsio ar ddechrau’r sioe a’r diweddglo dramatig oedd y darnau a ymarferwyd gyda’r cast cyfan. Roedd yn wefr cael gweld perfformiadau pawb a phob perfformiwr yn trio efelycha y perfformiad a fu o’u blaen. Mi fydd yr atgofion ABSẂRD yma yn aros yn hir yn y cof.

Rŵan ta! Ffordd arall o fesur blwyddyn yw drwy’r nifer o setiau y gellir ei adeiladu mewn tymor! Neu yn fwy cywir faint o weithiau y gallwch adeiladu’r un set mewn pythefnos! Dyna yn sicr a wnaeth pump ohonom ar gynhyrchiad “Rent”. Dyma’r sioe gyflawn gyntaf i CBC ei lwyfannu ac nid oedd hi heb ei chymhlethdodau. Ond os ydach chi yn adrenalin junike sydd methu byw a darganfod yr her nesaf yn eich bywyd, beth am i chi drio hyn? Adeiladu set o 20 steel decking , ei dymchwel tridiau wedyn, yna ei chludo a’i ailadeiladu’r bora canlynol. Er fy holl gwyno fe fyddwn yn ei wneud eto ar unwaith, drwy wneud y fath beth roedd rhywun yn aeddfedu a chymered cyfrifoldeb am agweddau newydd o’r byd theatr na fyddai modd cael cyfle i wneud fel perfformiwr proffesiynol.

Felly pan ddaeth yn amser i berfformio’r sioe roedd rhywun yn teimlo fel ei fod wedi cysylltu yn llwyr ar sioe a rhywsut bod y sioe yn rhan ohonof i. Atgof hoffus arall o’r cyfnod yma  fyddai’r rigio technegol a gafwyd.  Roedd ambell un ohonom wedi cael noson hwyr neu fora cynnar y diwrnod hwnnw, ( dibynnu be da chi’n galw 3am y bora)  ond fel y llwyfan , fe fyddwn yn ei ail wneud eto  gan fod yr unigolyn yn dysgu gymaint ag yn bwysicach byth yn cael hwyl drwy ddysgu!

Roedd Rent yn fydd mawr i mi yn bersonol. Cefais broedigaeth go drom rhyw ddyddiau cyn y sioe , ac drwy’r caneuon, y gwisgoedd llachar, ar awyrgylch Bohemiaidd  llwyddodd i leddfu’r boen. Er mi oedd golygfa angladd cymeriad Angel yn taro adra go hegar, ac efallai roedd ambell i ddeugryn yn amlygu ei hyn yn y sioe olaf.  Roedd Rent yn rollercoster emosiynol a chorfforol, Er hyn fi fydd rhywyn yn cofio y cyfeillgarwch , brawdgarwch a undeb a oedd o fewn y cast ar criw, ac drwy’r undeb yna roedd rhywn yn teimlo yn hollol ddiogel a chartrefol, er gwaethaf yr hyn oedd yn digwydd yn eu bwydau personol.