AbertaweÔl-raddedig

“Bywyd Myfyriwr Cwrs TAR” gan Martina Davies, TAR Cynradd, Campws Townhill Abertawe

Wrth gerdded i mewn i’r brif ddarlithfa ar fore cyntaf yr wythnos anwytho, roedd

y wefr yn yr ystafell yn drydanol. Gyda dros gant o fyfyrwyr yn barod

i ddechrau ar eu taith o ddysgu i addysgu, teimlais yn syth fy mod yn perthyn i’r grŵp yma o bobl ac ymfalchïais fy mod wedi penderfynu dod yn rhan o gymuned a

thrawon Cymru, ac i fyd addysg sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy newidiadau hynod gyffrous.

Roedd gwybod fy mod i, â’r holl athrawon oedd yn yr ystafell gyda mi yn mynd i effeithio’n bositif a chael effaith amhrisiadwy ar fywydau plant Cymru yn deimlad gwych. Roedd yr ystafell wedi’i lenwi â sgwrsio cyffrous darpar athrawon – fy nghyd fyfyrwyr – a oedd yn prysur gwneud ffrindiau a rhannu ofnau a phrofiadau. Wrth edrych o gwmpas ac ystyried y cam mawr roeddwn i’n ei gymryd i astudio cwrs TAR Cynradd, teimlais yn falch fy mod wedi ymroi’r flwyddyn yma i ddysgu i fod yn athrawes gymwysedig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yn ystod yr wythnos anwytho, cawsom gyfle i ddod i adnabod ein darlithwyr a gwnaethant yn siŵr ein bod ni i gyd yn teimlo’n gartrefol ac yn sefydlog ar ddechrau ein taith. Fe astudiais fy ngradd is-radd hefyd yn Y Drindod Dewi Sant, ond ar gampws Caerfyrddin, ac mae’n braf gweld bod ethos ac ymdeimlad gartrefol y Brifysgol i’w deimlo yma yn Abertawe, yn union fel yr oedd hi yng Nghaerfyrddin

‘slawer dydd!

Rhannwyd llawer o wybodaeth bwysig yn ystod yr wythnos gyntaf a theimlais fy mod wedi fy arfogi gyda phopeth oedd angen arna i cyn bod y darlithoedd a’n profiadau addysgu’n dechrau. Uchafbwynt yr wythnos anwytho oedd ar brynhawn Dydd Gwener pan osodwyd her i holl fyfyrwyr y cwrs TAR Cynradd i gwblhau helfa lluniau o gwmpas Abertawe. Ar ôl gosod ein hunain mewn grwpiau, blodeuodd ein cyfeillgarwch a’n hymdeimlad o berthyn a cawsom ni hwyl arni hefyd. Roedd hi’n brofiad gwych cael dod i adnabod pobl newydd wrth fwynhau popeth sydd gan Abertawe i’w gynnig. Fuodd chwerthin mawr wrth i dimoedd y cwrs TAR ddawnsio’r conga yng nghanol Dinas Abertawe a chreu cestyll tywod ar y traeth. Dechreuad gwych i’r cwrs a ffordd dda iawn i ddod i adnabod ein lleoliad astudio – sydd hefyd yn gartref newydd i mi yn y stod y cwrs – a dod i adnabod ein gilydd.  Fe wnaethom ni greu Padlet fel rhan o’r diwrnod o amgylch Abertawe – oedd yn rhan o’r dasg – a oedd yn gyfle gwych i ni ymgynefino â thechnoleg newydd a fydd yn dod yn rhan bwysig o’n gwaith i ddatblygu fel athrawon y dyfodol.

Byddwn ni’n sicr angen cefnogi’n gilydd ar hyd y daith hon wrth i ni astudio ar gwrs dwys a heriol, ond ar ôl wythnos anwytho prysur, dwi’n falch dweud mod i wedi gwneud ffrindiau da ac wedi cwrd

d â staff cefnogol tu hwnt. Edrychaf ymlaen at y misoedd nesaf pan fydd myfyrwyr cwrs TAR yn mynd allan ar leoliad a chael profi bywyd athrawes go iawn.