YDDS

#BywydMyfyriwrYDDS

Y mis yma rydym yn lansio ein cystadleuaeth Instagram #BywydMyfyriwrYDDS Rydym yn caru gweld lluniau o’ch amser yn Y Drindod Dewi Sant ac rydym yn eich gwahodd i’w rhannu nhw gyda ni drwy ddefnyddio’r hashnod #BywydMyfyriwrYDDS. Pob mis, rhwng nawr a’r flwyddyn academaidd nesaf, bydd gan geisiadau cymwys y cyfle i ennill y teitl ‘llun y mis’ mawreddog ynghyd â thaleb Amazon £50 yn wobr. 

Y cwbl sy’n rhaid ichi ei wneud yw rhannu eich lluniau o’ch profiad yn y brifysgol ar Instagram drwy ddefnyddio #BywydMyfyriwrYDDS. Gall y lluniau fod o’ch gwaith, eich campws neu unrhyw beth arall sy’n crynhoi eich profiad myfyriwr. Gallwch anfon cais gymaint o weithiau ag yr hoffech bob mis, bydd enw’r enillwyr yn cael eu tynnu allan o het ar hap a chaiff yr enillydd wybod drwy neges ar Instagram.

Rheolau:

  • Rhaid i bob ymgeisydd fod yn fyfyriwr cofrestredig yn Y Drindod Dewi Sant
  • Rhaid i bob ymgeisydd fod yn unig berchennog ac awdur ei ymgais/hymgais
  • Drwy gyflwyno cais, mae pob ymgeisydd yn cadarnhau bod unrhyw un a ddangosir yn y llun wedi rhoi eu caniatâd i’w llun gael ei gynnwys yn y gystadleuaeth
  • Dim ond ffotograffau a roddir ar Instagram drwy ddefnyddio #BywydMyfyriwrYDDS (neu #UWTSDstudentlife) a fydd yn gymwys i gael eu hystyried
  • Mae ymgeiswyr yn cytuno i’w llun gael ei rannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Y Drindod Dewi Sant

Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon rydych yn cytuno ar y rheolau uchod, yn ogystal â thelerau-ac-amodau-gwobr-ffotograffiaeth-fisol-Bywyd-Myfyriwr-YDDS