IsraddedigYDDS

Cinio Cangen

Oeddech chi siŵr o fod yn meddwl mai dim ond coedwig a banciau oedd â changen!  Dydy yn ddim yn wir, mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gangen ymhob prifysgol a Swyddog i sicrhau datblygiad addysg Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru.  Mae aelodau’r gangen yn cynnwys aelodau staff ac wrth gwrs y bobl bwysig – y myfyrwyr.

Ar nos Wener olaf tymor diwethaf, cynhaliwyd cinio cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant mewn gwesty lleol – ac am noson! Bwyd carferi, adloniant gan fand a digon o sgwrsio a chymysgu, roedd yn gyfle i’r staff ddod i nabod eu mfyfyrwyr ychydig yn well, a myfyrwyr cyfrwng Cymraeg i gymysgu efo’i gilydd ond yn fwy na hynny, dod â phawb ynghyd a hynny trwy fwynhau yn y Gymraeg.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn anhygoel, ar gyfer ysgoloriaethau, digwyddiadau, cyrsiau a llawer mwy, os ydych eisiau gwybod mwy am gangen PCYDDS, dilynwch @CangenDDS ar Twitter, neu e-bostiwch B.Davies@ydds.pcydds.ac.uk.