Llambed

Diwrnod Canoloesol Llanbed gan Rory Butcher

Gymdeithas Ganoloesol

Ar 24 Mawrth eleni, cynhaliodd Campws Llambed ei ail Ddiwrnod Canoloesol: achlysur blynyddol difyr dros ben a fydd yn parhau, gobeithio! Gyda chymaint o bethau’n digwydd gydol y diwrnod, anodd yw gwybod beth sydd i’w ddweud yn gyntaf, felly dyma ddechrau gyda’r Gymdeithas Lychlynwyr.

Cangen o’r grŵp cenedlaethol Regia yw ein Cymdeithas Lychlynwyr a’i nod yw ail-greu’r cyfnod canoloesol cynnar trwy hanes byw a pherfformio brwydrau. Yn eu harddangosiadau gwelwyd rhai o’u technegau ymladd ac roedd eu gwersyll yn gyforiog o wybodaeth am eu gwisg a bywyd ymhlith trigolion Danaidd Prydain.

Cymdeithas Lychlynwyr
Cymdeithas Lychlynwyr

Cafwyd hefyd ymddangosiad gan Historia Normannis, sef y grŵp cenedlaethol y mae’r Gymdeithas Ganoloesol (MedSoc) yn perthyn iddo: daeth ymladdwyr o bob cwr o dde Cymru i gymryd rhan mewn brwydr a berfformiwyd yn rhan o’u harddangosiad. Mae MedSoc yn portreadu ymladdwyr a sifiliaid o Gymru yn y 12fed a’r 13eg ganrif, felly mae’n sicr yn berthnasol i’r rhai sy’n astudio Cymru yn yr Oesoedd Canol!

Gymdeithas Ganoloesol

Gymdeithas GanoloesolHistoria Normannis a wnaeth hefyd ddarparu stondin bwa saeth y diwrnod lle gallai unrhyw un roi cynnig arni, ac roedd mynd mawr ar hon gydol y diwrnod. Daethon nhw hyd yn oed â gefail of go iawn!

Cynhaliodd y Gymdeithas Frwydrau eu harddangosiadau ar ffensio Almaenig yn yr 16eg ganrif, a brwydro arfog yn yr Oesoedd Canol – trwy ddefnyddio ffonfwyell, a chleddyf a oedd yn dalach na rhai o’r gynulleidfa, a’r naill ddigwyddiad a’r llall yn uchafbwyntiau penodol! Roedden nhw’n barod iawn i adael i’w llywydd ymladd yn ei arfwisg blât lawn; ac roedden nhw hefyd wedi gwahodd gemydd canoloesol i ymuno â nhw. Roedd gwaith arian penodol hwn yn gwerthu fel tân gwyllt.

Cynhaliodd y Gymdeithas Frwydrau
Cynhaliodd y Gymdeithas Frwydrau

Nid oedd gan fenter newydd eleni, sef Cymdeithas Buhurt, arddangosiad wedi ei amserlennu; roedden nhw, serch hynny, yn cynnig nifer o arddangosiadau bach o’r gamp gymharol newydd, sef Brwydro Canoloesol Hanesyddol (HMB), sy’n fwy o ornest cyffyrddiad llawn. Gwaetha’r modd, roedd eu niferoedd ychydig yn llai na’r disgwyl, ond ni wnaeth hynny leihau’r diddordeb a ddangosodd nifer o’n hymwelwyr iau!

Buhurt Society
Buhurt Society

Ac i’r rheini sy’n llai corfforol eu hanian, nid ail-greu brwydrau oedd y cyfan!

Perfformiodd Cantus Llambed, sef Côr Canoloesol y Brifysgol, nifer o weithiau yn ystod y diwrnod yn y capel ei hun – y cyfan mewn Lladin, wrth gwrs – a chael clod mawr. Gofynnwyd iddyn nhw arwain yr orymdaith agoriadol a’r orymdaith glo rhwng adeilad Caergaint a’r capel, o dan arweiniad Paul Watkins (trefnydd y digwyddiad).

Roedd yr hebogydd yn brysur ar gyfer rhan helaeth o’r diwrnod gyda cheisiadau am luniau gyda’r tylluanod yr oedden nhw wedi dod â nhw gyda nhw yn rhan o’u harddangosiad.  Cawson nhw hefyd gyfle i roi gair ar bob un o’r adar ysglyfaethus a’r defnydd arnyn nhw yn y gymdeithas ganoloesol ar gyfer hela.

Yr hebogydd
Yr hebogydd

Roedd nifer o uchafbwyntiau nodedig eraill: Rhoddodd Dr William Marx gyflwyniad gan ddarllen o farddoniaeth a rhyddiaith Eingl-Sacsonaidd. Yn ôl y sôn, roedd y masnachwr medd yn boblogaidd iawn (yn enwedig yn dilyn y brwydrau!), yn ogystal â’r gweithiwr pren lleol, ac arddangoswyd nifer o lawysgrifau yn Archifau Roderick Bowen i’r cyhoedd eu hastudio ac ymwneud â nhw. Roedd hyd yn oed stondin taro coconyts o’r Oesoedd Canol!

At ei gilydd, roedd hwn yn ddiwrnod prysur iawn i bawb a oedd yn rhan ohono, ac roedd yr ymwelwyr wrth eu bodd. Y cyfan y mae angen i mi ei wneud yw diolch i bawb a gymerodd ran – ac i ddiolch i Paul Watkins am drefnu digwyddiad mor arbennig. Boed iddo barhau am sawl blwyddyn i ddod!

Am ragor o wybodaeth am glybiau a chymdeithasau Llambed, neu i ddarganfod sut i sefydlu eich un eich hun, ewch i wefan UMYDDS

Lluniau trwy ganiatâd caredig Jessica Keady, Joe Waddock, a Therron Welstead.