IsraddedigÔl-raddedig

Llwyddiant Arolygon a Thablau Cynghrair

1af yng Nghymru am Foddhad Myfyrwyr gyda'n Cymuned Ddysgu (ACM 2017)

Efallai eich bod wedi gweld ystadegau am y ‘profiad prifysgol’ o wahanol arolygon a thablau cynghrair yn y yfryngau ac ar-lein. Gall y ffigyrau hyn fod yn anodd eu deall ond gallant fod yn ddefnyddiol wrth ddewis eich cwrs neu brifysgol. Yma, esboniwn beth yw rhai o’r arolygon hyn ac ym mha safle y daw’r Drindod Dewi Sant.

Nid yw pob prifysgol yn cymryd rhan mewn pob arolwg neu dabl cynghrair ac eithrio’r ACM (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr), ond mae rhan fwyaf yr arolygon yn denu detholiad eang o fyfyrwyr o sefydliadu ar draws y DU.  Mae’r ACM yn arolwg o fyfyrwyr blwyddyn olaf sy’n astudio ym mhob Prifysgol a Choleg sy’n darparu Addysg Uwch ar draws Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd canlyniadau’r NSS yn cael eu cyhoeddi bob mis Awst, a gallwch weld y canlyniadau hefyd ar wefan Unistats ac ar ran fwyaf y tudalennau cwrs. Eleni, cymerodd 126 o Brifysgolion ran yn y WhatUni Student Choice Awards a chymerodd 116 ran yn y Times Higher Education Student Experience Survey.

‘Whatuni Student Choice Awards’ (WUSCAs) 2018

Yr WUSCAs yw dathliad blynyddol Whatuni o foddhad myfyrwyr mewn addysg uwch. Mae’r 36,000+ o adolygiadau a gafwyd tuag at wobrau 2018 yn dangos llais y myfyriwr. Eleni, fe ddaethom yn:

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 11egyn y DU am Brifysgol y Flwyddyn Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 4ydd yn y DU am Gyrsiau a Darlithwyr

“Yma, fe gerddwch i mewn ac mae pobl yn hapus. Amser cinio, mae pobl yn hapus. Fe ewch i’r llyfrgell ac mae pobl yn hapus. Mae’r holl ffrindiau rwyf wedi’u gwneud yma wedi trosglwyddo o brifysgolion eraill, roeddem i gyd yn teimlo’r un ffordd am hon.” – Phebe Harrow, Myfyriwr Y Drindod Dewi Sant

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 6ed yn y DU am Gymorth Myfyrwyr Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 6ed yn y DU am Ddarpariaeth Ol-raddedig

‘The Times Higher Education Student Experience Survey’ 2018

Mae’r arolwg hwn yn rhoi trefn ar brifysgolion gorau’r DU, yn ôl myfyrwyr presennol yn ogystal â dod yn 7fed yn y DU am brofiad academaidd, daeth Y Drindod Dewi Sant hefyd yn:

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 7fed yn y DU am Brofiad Academaidd Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 4ydd yn y DU am Diwtora Mewn Grwypiau Bach Daeth Y Drindod Dewi Sant yn gydradd 4ydd yn y DU am Berthnasoedd Personol Da gyda Staff Addysgu

 “Cefais amser gwych ac roedd pobl gwych o’m cwmpas tra roeddwn yng Nghaerfyrddin. Rwyf Wedi gwella fy sgiliau iaith a chyfathrebu. Mae fy holl ddarlithwyr a ffrindiau wedi helpu llawer wrth i mi wneud aseiniadau a phrosiectau.” – Jennifer Manggie, Myfyriwr Rhyngwladol Y Drindod Dewi Sant

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn gydradd 10fed yn y DU am Staff / Darlithoedd o Ansawdd Uchel Daeth Y Drindod Dewi Sant yn gydradd 6ed yn y DU am Staff Parod eu Cymwynas / Ymroddedig Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 11egyn y DU am Gefnogaeth / Lles


People & Planet University League Table

Tabl People & Planet’s University League yw’r unig dabl cynghrair cynhwysfawr ac annibynnol o brifysgolion y DU sy’n dangos eu perfformiad amgylcheddol a moesegol.

Dyfarnwyd statws ‘Dosbarth Cyntaf’ i’r Drindod Dewi Sant yn y People & Planet University League Table.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar ein gwefan, ein tudalen Ffeithiau a Ffigurau, cyfryngau cymdeithasol a’r blogiau i ddysgu am ganlyniadau arolygon a thablau cynghrair yn y dyfodol.