CaerfyrddinYDDS

Mam! Dwi’n mynd i uni! #FyStori @Dan_PCYDDS

Doedd fynd i’r brifysgol ddim yn dewis cyntaf i mi, ond, dwi mor falch mae dyma’r llwybr dwi wedi penderfynu dilyn. Dwi ar fin gorffen tymor cyntaf fy ail flwyddyn, ac mae’r cyfnod dwi wedi bod yma wedi bod yn anhygoel, rhwng gweithgareddau allgyrsiol i weithgareddau’r cwrs, dwi wrth fy modd. Dwi’n astudio BA Perfformio, mae’n wych, dwi wedi gwneud ffrindiau am oes allan o’r grŵp bach dwi’n gweithio efo ac mae’n grêt gweld datblygiad ymhob un ohonom. Rydym yn cael siaradwyr gwadd, rydyn ni’n ‘star-struck’ ambell i waith ond dyma beth ddwi am wneud, ac mae’r radd dwi’n gweithio tuag at yn rhoi hwb enfawr i fi a’n yrfa.

Fel myfyriwr Cymraeg mae digonedd i gadw chi’n brysur, rhwng y ddawns a’r ‘steddfod ryng-golegol, taith y chwe gwlad, Aelwyd, Eisteddfod yr Urdd, pob un yn brofiad diddorol i ddweud y lleiaf. Wrth gwrs, mae’r Coleg Cymraeg yn dda i ni hefyd efo teithiau yn cael ei threfnu fel Cangen. Eleni, penderfynais i fod yn ‘buddy’ rhyngwladol sydd yn golygu fy mod yn helpu myfyrwyr tramor sydd yn dod am dymor neu am y flwyddyn i astudio ac i ymgyfarwyddo efo bywyd myfyrwyr cymraeg, mae hyn hefyd yn golygu fy mod yn cael fynd ar ei tripiau nhw o amgylch sir gar, i Gaerdydd I ymweld a Sain Ffagan ac wrth gwrs i ymweld a chanolfan siopa Dewi Sant. Un o’r profiadau gorau hyd yn hyn efo’r swyddfa rhyngwladol yw cael swper Diolchgarwch efo’r myfyrwyr o America.

Fi yn y swper Diolchgarwch efo Deio.
Fi yn y swper Diolchgarwch efo Deio.

Mae campws Caerfyrddin yn wych! Mae’n campws fach lle mae pawb yn nabod ei gilydd. Mae pob math o bethau I gwneud yn fy amser rhydd, er nad ydw I’n rhan o tim chwaraeon, mae pob math yn cael ei cynnig gan yr Undeb, a dwi’n joio gwylio. Fel tref, mae Caerfyrddin yn hyfryd, sinema, bwytai, tafarndai a siopau di-ri yn gwerthu pob math o bethau. Mae digwyddiadau trwy’r flwyddyn, marchnad nadolig a tan gwyllt yn rhai o’r uchafbwyntiau.

Bod yn lysgennad mewn diwrnod agored
Bod yn lysgennad mewn diwrnod agored

Dwi ar hyn o bryd yn gweithio ar bar yr Undeb, dwi wrth fy modd wrth iddi agor drysau at grwp o ffrindiau gwahanol a siarad efo llwyth o fyfyrwyr gwahanol ond hefyd yn brofiad, wrth imi enill sgiliau paratoi a coginio bwyd. Dwi hefyd yn llysgennad efo’r brifysgol, dwi wedi cael llawer o hwyl, yn siarad efo darpar fyfyrwyr, dangos myfyrwyr o gwmpas campws, helpu Sion Corn, mynd I Gwyl Golwg a llawer mwy, dwi wedi creu cysylltiadau efo myfyrwyr dros pob campws erbyn hyn a dwi dal I joio! Dyma ni am fy mlog cyntaf erioed, mae digonedd genai I rhannu  efo chi yn gweddill fy mlogiau!