Abertawe

Adolygiad o Ddarlith Gwadd Peter Lord gan Tomos Sparnon

Peter Lord guest lecture

Tomos SparnonTomos ydw i a fi oedd y cyntaf i raddio o’r radd cyfrwng Cymraeg Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant. Mae’r cyfleusterau yn y Brifysgol yn wych ac fel myfyriwr roedd hi’n brofiad arbennig astudio yng Ngholeg Celf Abertawe. wikipedia united.

Yn dilyn fy astudiaethau, cefais fy mhenodi fel artist preswyl, mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi fy lleoli yng Ngholeg Celf Abertawe. Yn ystod y flwyddyn academaidd rwyf wedi bod yn mentora myfyrwyr gyda’u hastudiaethau, sydd wedi bod yn fraint.

Yn ddiweddar, cefais gyfle i fynychu darlith arbennig gan yr Hanesydd Celf amlwg Peter Lord a gynhaliwyd yng Ngaleri Celf y Glynn Vivian yn Abertawe.

Daeth cynulleidfa dda ynghyd i Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, ar nos Iau 24 Ionawr ar gyfer darlith gan yr hanesydd celf Peter Lord. Mae Peter Lord yn arbenigwr ar hanes celf yng Nghymru ac yn ysgrifennu ac yn darlledu am ddiwylliant gweledol Cymru.

Teitl y ddarlith oedd ‘Hanes Celf yng Nghymru mewn 12 neu 13 llun’. Gyda chymorth pwynt pŵer, disgrifiodd ddatblygiad hanes celf yng Nghymru a’r modd y mae’r gorffennol wedi dylanwadu ar artistiaid ers hynny. Cyfeiriodd at waith sawl artist, gan gynnwys Edward Owen, Richard Wilson a Shani Rhys James.

Teimlwyd balchder wrth glywed am ddoniau creadigol a llwyddiannau artistiaid y gorffennol ac atgoffwyd y gynulleidfa am draddodiadau Cymru a phwysigrwydd plethu hynny yng ngwaith celf heddiw.

Ar ddiwedd y ddarlith, cafwyd cyfle i holi cwestiynau, a diddorol oedd clywed ymateb y siaradwr i bynciau megis rôl orielau a dyfodol y celfyddydau yng Nghymru. Cyfeiriodd Gwen Beynon, (Uwch Ddarlithydd yng Ngholeg Celf Abertawe sydd â chysylltiad â Mr Lord trwy ei hymchwil ar hanes celf yng Nghymru), at y ffaith fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ac yn annog myfyrwyr i ddefnyddio hanes celf yng Nghymru yn eu gwaith.  Am fwy o wybodaeth ynghylch ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ewch i http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/cymorthariannol/

Mae gan Peter Lord ddawn i ddenu ei gynulleidfa a hedfanodd yr awr wrth wrando arno. Mae’n amlwg o’r ymateb a glywyd ar ddiwedd y noson bod pawb wedi mwynhau’r ddarlith ac wedi elwa ohoni. Diolch i Gyfeillion y Glynn Vivian am drefnu’r digwyddiad ac am gyfle i glywed un o ffigurau pwysicaf y byd celfyddydol yng Nghymru heddiw.

Tomos Sparnon, Artist Preswyl, Coleg Celf Abertawe