CaerfyrddinMyfyriwr Hŷn

Blog gan Dylan Davies, BA Astudiaethau Addysg Gynradd, campws Caerfyrddin

Ar ôl treulio deuddeg mlynedd allan o fyd addysg, yn gweithio mewn argraffdy ac yna am gyfnod yn gweithio gyda’r awdurdod addysg leol, rydw i wedi camu drwy ddrysau croesawgar Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, i astudio gradd Astudiaethau Addysg Gynradd.

Am sawl blwyddyn bûm yn ystyried a oeddwn i am fynd i’r brifysgol neu ei gadael hi am flwyddyn arall? Ond â minnau bron yn fy nhridegau, dyma ddychwelyd i addysg llawn amser.

Mae’n anodd credu fy mod ar fin gorffen y flwyddyn gyntaf yn y brifysgol ac mae’r cyfnod wedi bod yn anhygoel. Yn y semester cyntaf roeddwn yn astudio Sgiliau Astudio, sy’n grêt ar gyfer aseiniadau a chyfeirnodi, sy’n sgil angenrheidiol yn y brifysgol.

Rydym yn cael siaradwyr gwâdd i gymryd rhai darlithoedd sy’n help mawr ar gyfer aseiniadau. Eleni, rydym wedi bod ar dripiau addysgiadol er mwyn rhoi’r theori ar waith. Rydym wedi bod i Lansteffan, Caerdydd, Castell Dylan DaviesHenllys a Thrysordy. Er ei fod yn drip gyda’r cwrs, mae’n gyfle gwych i gymdeithasu gyda chyd-fyfyrwyr.  Wrth ysytired y flwyddyn gyntaf, rwy’n teimlo’n fwy hyderus ers astudio yma.  Yn ddiweddar bûm yn siarad o flaen 400 o bobl yn yr Eidal. Dros flwyddyn yn ôl, ni fyddai’r hyder gen i i gamu ar y llwyfan i siarad. Wrth feddwl, dylem fod wedi cymryd y cam o fynd i’r brifysgol llawer yng nghynt.  Rydw i wedi gwneud ffrindiau am oes allan o’r cwrs a’r brifysgol.

Fel myfyriwr sy’n siarad Cymraeg, mae yna ddigonedd o weithgareddau i fy nghadw i’n brysur. Mae taith y chwe gwlad (i’r Iwerddon yn 2016), cinio Nadolig Cangen Coleg Cymraeg Y Drindod Dewi Sant, sy’n gyfle eto i gwrdd â myfyrwyr eraill.

I grynhoi, dewch i’r Drindod Dewi Sant. Mae’n groesawgar i fyfyrwyr o bob cefndir, dwi’n falch fy mod i wedi cymryd y cam.