Clybiau a ChymdeithasauLlambed

Cymdeithas y Mis

Battle Society in action
Yn y cyntaf o’n herthyglau ar glybiau a chymdeithasau, bu inni ofyn i un o fyfyrwyr BA Gwrthdaro a Rhyfel y drydedd flwyddyn, Rory Butcher, i ddweud rhagor wrthym am Gymdeithas Brwydro Campws Llambed…

Sefydlwyd Cymdeithas Brwydro Llambed nôl yn y 1990au, (cyn belled ag rwyf i’n ymwybodol) er, yn ddiweddar, rydym wedi mabwysiadu agwedd wahanol at grefft ymladd brwydro canoloesol nag ein rhagflaenwyr. Mae yna nifer o gymdeithasau ail-greu ar draws tri phrif gampws Y Drindod Dewi Sant, a pam lai, gan fod yma gariad ffyniannus at hanes y mae llawer ohonom yn ei fwynhau.

Mae’r gymdeithas frwydro yn wahanol i rai o’r cymdeithasau eraill am nad ydym yn ceisio bod yn hanesyddol yn ein hoffer. Yn hytrach, rydym yn rhan o gymuned fwy o ymarferwyr o’r Crefftau Ymladd Ewropeaidd Hanesyddol (HEMA). Mae’r casgliad rhyngwladol hwn o grefftwyr ymladd, haneswyr, ailgrewyr, a llawer mwy, i gyd yn gweithio gyda llawlyfrau ymladd yr oes a fu – yn ymestyn o’r 14eg ganrif yr holl ffordd i ddyfodiad ffensio chwaraeon modern ar ddechrau’r 1900au. Gwnawn hyn drwy astudio’r llawlyfrau hyn, neu draethodau, yn fanwl iawn i benderfynu at beth roedd y meistri ffensio’n cyfeirio.

Mae’r gymdeithas frwydro yn astudio’n benodol gwaith ffensiwr Almaeneg o’r 16eg ganrif, sef Joachim Meyer a gyhoeddodd ei gyfrol Thorough Descriptions of the Art of Fencing, yn 1570. Yn hwn mae’n cwmpasu ei ymagwedd at frwydro gyda’r cleddyf hir, dussack (cleddyf un-llaw byr), cleddyf main, dager, a ‘polearms’ – llawer i’w gwmpasu mewn cwricwlwm i’r rheiny sy’n cwrdd ddwywaith yr wythnos! Rydym yn canolbwyntio ar ei wersi ar gyfer y cleddyf hir. Prif reswm hyn yw symlrwydd a phragmatiaeth: y cleddyf hir yw un o arfau mwyaf syml i ddysgu amdano yn HEMA oherwydd, fel rydym wedi darganfod, unwaith yr ydym wedi deall ymagwedd meistr gyda’r cleddyf hir, gallwn ddeall ei ymagwedd at y cleddyf a ‘buckler’ (tarian gron), dussack, a hyd yn oed techneg arfau polyn sylfaenol. Felly, drwy ymarfer ein sgiliau cleddyf hir, gall aelodau’r Gymdeithas Frwydro ddilyn eu diddordebau unigol eu hunain hefyd.

Ond, nid yw mor syml â dim ond ymarfer ein technegau yn ôl llawlyfr hyfforddiant.  Y prif faglau y mae ymarferwyr HEMA yn dod ar eu traws yw wrth gyfieithu a dehongli. Roedd Meyer yn ysgrifennu mewn Almaeneg, ac Almaeneg y Dadeni hefyd – meddyliwch pa mor wahanol yw Saesneg oes Shakespeare i Saesneg fodern.  Mae hyn yn arwain at y sefyllfa od lle bo safle gwarchod, sy’n cynnwys gafael y cleddyf uwch eich pen, yn cael ei alw’n llythrennol yn warchod ‘y dydd’ gan nifer o rifynnau Saesneg. Yr ail broblem yw sut y geiriodd ei lawlyfr. Er efallai ei fod wedi gwneud synnwyr i Meyer, mae rhai adrannau’n fwy amwys nag y byddai’r rhan fwyaf o ysgolheigion yn ei werthfawrogi. Felly, rydym yn treulio mwy o amser nag yr hoffwn yn ceisio gwneud i’w ddisgrifiadau weithio yn y byd go iawn, ac nid dim ond ar y dudalen!

Dyma ddarn o’i lawlyfr cleddyf hir gyda’r llun sy’n mynd gydag ef. Allwch chi ddeall beeth roedd o’n ei olygu?

 ‘If your opponent strikes from above, then strike against his sword with crossed hands from the left and below, so that your pommel sits under your right arm, and thus quick to glide, step strongly from him from your left side with your left foot, swing your sword’s pommel out farther in an arc toward your left side so that the swing moves your long edge over his right arm behind his pommel or hits atop his right arm, as is shown by the figure in the right side foreground of illustration H, and closely thereafter your sword flies out from close to your side, and again strikes against the hands through the cross, so it is done.’

Digon yw dweud, mae digon gennym i’w wneud! Er hynny, pan gaiff darn ei gyfieithu’n llwyddiannus yn syniad corfforol mae’n werth chweil – ac yn fwy fyth pan fyddwn yn ei wneud wrth ymladd o hyd braich â rhywun. Y gallu i ymladd gyda chleddyfau hir mewn ffordd gydlynol, ac mewn ffordd sydd, ar y cyfan, yn well i ni na’n gwrthwynebwyr! Oherwydd yn y pen draw, dyma pam rydym yn hyfforddi.  Felly os oes awydd arnoch ddysgu sut i ymladd â chleddyfau o lawlyfr a ysgrifennwyd dros bedwar can mlynedd nôl, chwiliwch amdanom ni ar Facebook yn ‘The Battle Society TSD Lampeter’.