AbertaweCaerdyddCaerfyrddinIsraddedigLlambed

Pam Dewis Y Drindod Dewi Sant?

Wrth i’r haf gynhesu a diwrnod canlyniadau lefel A prysur agosáu, mae drws posibiliadau’r hyn y gallech chi ei wneud nesaf yn llydan agored. Gyda chymaint o ddewisiadau, gall gwneud penderfyniad fod yn anodd, yma, mae ein blogiwr, Stephany, yn esbonio pam y gall Y Drindod Dewi Sant fod yn ddewis perffaith i chi.

Ffocws ar yrfaoedd

Un o’r pethau sy’n gwneud Y Drindod Dewi Sant yn ddeniadol iawn fel sefydliad addysg uwch yw’r cyswllt rhwng y brifysgol a diwydiant. Mae’r hyn a ddysgwn yn ein rhaglenni’n eich paratoi at eich dyfodol ac mae yna lawer o gyfleoedd i gael profiad gwaith ac i feithrin sgiliau ymarferol wrth ichi astudio. Yn amodol ar eich dewis gampws, gall cynnwys eich cwrs gynnig lleoliadau gwaith, cysylltiadau diwydiannol, gwaith prosiect byw, teithiau gwaith maes ac ati. Hefyd, mae yna gyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau entrepreneuraidd a chystadlaethau fel ‘Ras i’r Farchnad’ lle gallwch ddewis gweithio ar brosiect byw am wythnos ac yna cyflwyno eich syniadau i banel arbenigol o feirniaid.

Cyfeillgar

Yn y brifysgol, byddwch yn cwrdd â phobl newydd a gwneud sawl cyfeillgarwch newydd a fydd yn para oes. Er bod ein campysau’n wahanol iawn – Abertawe gyda’i naws fodern a gweledigaeth arloesol, Caerfyrddin gyda’i chysylltiadau â menter wledig ac addysg awyr agored, a Llambed gyda’i safle hardd a’i ffocws ar y Dyniaethau – mae ein campysau’n rhannu cyfeillgarwch ac ymdeimlad o deulu a chymuned. Myfyrwyr, academyddion, porthorion, staff bar a staff y derbynfeydd, rydym i gyd yn rhan o gymuned fawr sy’n eich hudo ac yn eich croesawu’n gynnes.

Cefnogol

Nid oes geiriau i ddisgrifio pa mor gefnogol mae’r brifysgol hon wedi bod gyda fi trwy gydol fy ngradd. Nid yn unig y mae ein hacademyddion yn cefnogi ymchwil y myfyrwyr ond drwy ymuno â’r Drindod Dewi Sant, bydd gennych fynediad at adrannau eraill sy’n buddsoddi yn ein gofal a lles cyffredinol. Mae gan Y Drindod Dewi Sant wasanaethau cwnsela, adran gyrfaoedd wych, a gwasanaethau cymorth dysgu, i enwi ond rhai o’r timau sydd yno i’n cefnogi.

Cymuned sy’n dysgu

Pan fyddwch yn ymuno â’r Drindod Dewi Sant, nid yn unig rydych yn ymuno â sefydliad addysg uwch ond rydych hefyd yn ymuno â chymuned ddysgu. Mae boddhad myfyrwyr yn bwysig iawn i’n prifysgol ni, felly pan fyddwch yn penderfynu pa radd yr hoffech ei gwneud ac yn dewis astudio gyda ni, cewch eich gwerthfawrogi nid fel cwsmer neu rif arall yn y system, ond fel person a fydd yn cyfrannu at ac yn helpu i siapio teulu’r Drindod Dewi Sant.

lampeter student awards

Darlithwyr gwych

Mae ein darlithwyr yn arbenigwyr yn eu maes. Wedi bod yn fyfyriwr am 4 blynedd ar gampws Llambed, rwyf wedi cael y cyfle i weld maint eu hymrwymiad. Yma yn Y Drindod Dewi Sant, mae darlithwyr yn mynd y tu hwnt i’r galw o ran helpu myfyrwyr, maent bob tro’n darparu adborth ac yn hapus i drafod eich ymchwil chi a nhw. Mae ein darlithwyr yn weithwyr proffesiynol ffantastig ond diffwdan a hawdd siarad â nhw, maent yn gefnogol iawn a chanddynt gariad at yr hyn y maent yn ei addysgu.

Unigryw – Prifysgol lle allech chi fod yn chi eich hun

Boed hynny yn Caerfyrddin, Caerdydd, Llambed, neu Abertawe , mae rhywbeth at ddant bawb yma. Mae ein Hundeb y Myfyrwyr yn weithgar iawn ac mae’r dewisiadau sydd gennych fel myfyriwr o ran ymuno â chymdeithas yn eang. Gallech fod yn rhan o gymdeithas academaidd, clybiau theatr, ail-greadau, ymuno â thîm chwaraeon, ayb. Un o’r pethau gorau sydd gan Y Drindod Dewi Sant i’w gynnig yw’r cyswllt rhwng ein campysau, felly mae yna gyfleoedd ichi gwrdd â phobl o wahanol gyfadrannau a chystadlu gyda nhw ac yn eu herbyn.

Eich dyfodol, eich dewis  

Os ydych yn dewis Y Drindod Dewi Sant fe fydd cymaint o gyfleoedd ar gael i chi, o gwrdd â ffrindie oes i astudio dramor i gyrraedd eich swydd ddelfrydol ar ôl profiad gwaith, mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd. Drwy ddewis Y Drindod Dewi Sant, rydych yn dewis ysbrydoliaeth, unigrywiaeth ac angerdd.