Israddedig

Paratoi at fynd i’r Brifysgol gan Stephany Aymerich

Paratoi at fynd i’r Brifysgol

Os ydych yn darllen hwn, mae’n debyg eich bod wedi mynd drwy’r broses gwneud cais, wedi penderfynu ar brifysgol ac wedi cadarnhau ymhle y byddwch yn astudio. Os dyna’r achos, mae’n debyg bod gennych gant a mil o gwestiynau am eich dewis prifysgol, o’r hyn i ddisgwyl yn ystod wythnos y glas, i gyda phwy y byddwch yn byw a beth sydd angen i chi ei gymryd gyda chi i le fydd eich ‘cartref newydd’ .

Os ydych yn chwilio am ganllaw i’r hyn y dylech ei bacio i fynd i’r brifysgol, edrychwch ar fy mlog arall! Os hoffech chi wybod sut bobl y byddwch yn byw gyda nhw, un syniad yw defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i weld pwy arall fydd yn eich fflat/tŷ a dod i’w hadnabod gan leddfu eich meddwl chi, eich rhieni a’u meddwl nhw.

Cyn i chi adael am y brifysgol, gwnewch yn siŵr eich bod wedi sefydlu cyfrif banc myfyriwr. Os oes gennych un, grêt! Os nad oes, stopiwch osgoi’r peth – mae banciau wrth eu bod yn cynnig cymhellion i fyfyrwyr, sy’n golygu efallai y cewch chi gerdyn rheilffordd, yswiriant neu gerdyn UCM am ddim. Rhag ofn na chewch chi, mae cerdyn ACM yn hynod o ddefnyddiol i fyfyrwyr, gallwch gael un ar-lein a threfnu iddo gael ei anfon i gampws y brifysgol neu gwnewch o unwaith y byddwch yn cyrraedd y campws.

O ran wythnos y glas, dylech ddisgwyl llawer o sgyrsiau ymsefydlu – cewch amserlen a chanllaw ar gyfer y rhain. Gallwch ddisgwyl i lawer o ddigwyddiadau gael eu trefnu gan Undeb y Myfyrwyr, bydd rhestr ohonynt ar y dudalen Facebook. Os ydych yn dod i gampws Llambed, mae’n debyg y bydd gwibdaith ddewisol arall ar eich cyfer yn ogystal â chinio’r glas lle cewch gwrdd â’ch cymheiriaid. Yn ystod ffair y glas, bydd ein holl gymdeithasau yn yr un lle er mwyn ichi allu gweld beth sydd ar gael. Yn bersonol, rwy’n argymell eich bod yn ymuno â chymaint ag y gallwch yn ystod eich blwyddyn gyntaf oherwydd efallai na chewch chi gyfle i wneud hynny yn hwyrach yn ystod eich amser yn y brifysgol. Cofiwch, unwaith rydych wedi ymuno â chymdeithas, mae croeso i chi fynd i’w sesiynau blasu ac os nad ydych yn hoffi’r profiad, nid oes raid i chi fynd eto.


Ar y diwrnod y byddwch yn symud i mewn, cadwch lygad allan am Gyfeillion y Glas. Maent yn fyfyrwyr presennol yn y brifysgol sydd wedi bod trwy’r un broses, ac wedi gwirfoddoli i roi help llaw i fyfyrwyr newydd yn ystod wythnos y glas; byddant yn eich cymryd i’r lle iawn, eich helpu i ffeindio’ch ffordd o gwmpas y llety a byddant yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau allai fod gennych ar eich diwrnod cyntaf.
Cofiwch fod y Brifysgol yn rhywle lle gallwch ddysgu llawer o bethau amdanoch chi eich hun a gwneud ffrindiau a fydd, gyda lwc, yn para oes.

Pob lwc !

Steph x