AbertaweCaerfyrddin

Staff a myfyrwyr yn cystadlu gyda’i gilydd yn Triathlon Abertawe

Challenge by choice / Dewis Her
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn brif noddwr Triathlon Abertawe, sydd ymlaen y penwythnos yma, gyda llawer o’n staff a myfyrwyr yn cymryd rhan. Fe ddechreuodd siwrne Triathlon Guto, myfyriwr 2il flwyddyn BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff y llynedd yn Abertawe, eleni fe fydd Paul, darlithydd Blynyddoedd Cynnar, yn ymuno ag ef, dyma eu straeon nhw…

Helo, Guto ydw i a dwi’n fyfyriwr yn fy 2il flwyddyn yn astudio BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Ffitrwydd Awyr Agored). Dwi wedi ennill lle i gynrychioli Prydain yn fy ngrŵp oedran ym mhencampwriaethau Triathlon Ewrop yn Estonia ym mis Gorffennaf.

Roeddwn i wedi cael  fy ysbrydoli i hyfforddi ar gyfer a chynnig am y pencampwriaethau ar ôl cymryd rhan yn nhriathlon PCYDDS Abertawe yn SA1 y llynedd fel rhan o’m cwrs prifysgol. Dyma fy nhriathlon cyntaf ac yn ogystal bues i’n hyfforddi Gruff Ifan, aelod o’r staff, i roi cynnig ar ei driathlon cyntaf yntau hefyd. Ers hynny, dwi wedi parhau i gystadlu mewn cystadlaethau triathlon, a dwi wedi dal ati i hyfforddi Gruff. Mae’r ddau ohonom wedi datblygu’n sylweddol, gyda Gruff wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth hanner Ironman ac yn ystyried o ddifri gymryd rhan yn Ironman Cymru eleni.

Mae’r ddau ohonom yn cystadlu eto eleni, ynghyd â staff a myfyrwyr, yn Nhriathlon PCYDDS Abertawe yn SA1 ar 20 Mai. Galwch heibio i gefnogi’r cystadleuwyr!

Mae’r cwrs wedi fy ngalluogi i ymchwilio, dysgu a datblygu sgiliau hyfforddi a rasio hanfodol. Mae cael yr adnoddau o fewn y labordy profi ffitrwydd yn y Brifysgol wedi fy helpu i ddeall mwy am dechnegau hyfforddi ac wedi datblygu fy ffitrwydd. Mae gweithio gydag athletwyr eraill trwy’r Brifysgol a gyda Cycle Specific wedi cynyddu fy nealltwriaeth o’r gamp.

geraint-and-guto-triathlon training

Paul ydw i a dwi’n ddarlithydd Blynyddoedd Cynnar ar y rhaglenni Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn Y Drindod Dewi Sant ac rwy’n ffodus iawn wedi cael fy newis i fod ar dîm y Brifysgol.

Mae triathlon yn antur fawr ac rwy’n hoffi trochi yn y profiadau wrth i mi weithio fy ffordd drwy’r cwrs.  Ar y cychwyn, rhan o hyn oedd gweld yr hwyl roedd fy nheulu’n ei gael wrth fy ngwylio’n ceisio tynnu ‘tri suit’ lycra amdana’i, rhywbeth sy’n sicr heb ei ddylunio ar gyfer rhywun o’m hoed a’m ffrâm i.

Mae’r adran nofio’n dagfa o goesau a breichiau’n sblasio ym mhobman o’ch cwmpas, mae ceisio osgoi anaf cynnar drwy osgoi’r breichiau a’r coesau sy’n ffustio o’ch cwmpas yn her. Rwy’n paratoi at hyn yn y pwll drwy geisio nofio wrth i’m dau o blant daflu codwm â fi, fy nhynnu’n ôl a neidio drosof yn brith drafflith – ffordd wych i baratoi! Ar ôl i bethau dawelu rhywfaint ac rydw i’n saff y tu ôl i’r dorf, rwy’n mwynhau gwylio’r slefrod môr yn arnofio’n dawel oddi danaf.

Mae neidio ar gefn y beic yn deimlad da bob tro, mae fy meic yn hen iawn ond rydym wedi datblygu perthynas gref dros y milltiroedd o baratoi.  Mae dechrau pedlo ar ôl nofio yn deimlad rhyfedd ac mae’n cymryd sbel i gael gafael yn iawn ar eich cyfeiriannau, rhaid i wylwyr y filltir neu ddwy gyntaf fod yn ofalus ohonyn nhw eu hunain – mae yna feiciwr simsan o gwmpas.

Mae’r rhan rhedeg yn hwyl bob tro oherwydd y gefnogaeth anhygoel a gewch chi gan y gwylwyr, llawer o weiddi ac anogaeth, hyd yn oed cynnig peint i chi wrth i chi redeg drwy ardd tafarn y ‘Pump House’ (Mae yna demtasiwn mawr i gael egwyl fach am ddiod yn fan hyn.)

O’r diwedd, y llinell gorffen, am ryddhad anhygoel!  Y tro diwethaf i mi groesi’r llinell, fe groesodd fy mhlant ef gyda fi gan afael yn fy nwylo a rhoi ‘pump uchel’ i’r dorf, ennyd arbennig iawn i ni i gyd.

Pam na ddewch chi draw i gefnogi’r Brifysgol a’r Blynyddoedd Cynnar, efallai y bydd werth i chi ddod os nad dim ond i chwerthin ar fy mhen mewn ‘tri suit’!

triathlon-staff group