Cafodd Tabl Cynghrair Prifysgolion papur newydd y Guardian ar gyfer 2019 ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf, ond beth yw e, sut maent yn ei greu ac ymhle y mae’r Drindod Dewi Sant yn sefyll?
Bob blwyddyn mae’r Guardian yn llunio tabl sy’n graddio Prifysgolion ar amrywiaeth o rinweddau y gall myfyrwyr eu hystyried wrth ddewis Prifysgol. Mae’r sgoriau y mae’n eu rhoi wedi’u seilio ar gyfuniad o ffynonellau o wybodaeth gan gynnwys arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE), yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr a’r prifysgolion sy’n cymryd rhan. Bydd y blog hwn yn ceisio ateb rhai o’r cwestiynau cyffredin a gawn ni wrth siarad am y canlyniadau.
Ydy pob prifysgol yn cael ei chynnwys yn Nhabl Cynghrair y Guardian? Na, nid yw pawb yn dewis cymryd rhan, eleni mae 121 prifysgol yn cymryd rhan.
Pa ffactorau mae Tabl Cynghrair y Guardian yn edrych arnynt a sut y caiff y sgoriau eu cyfrifo? Cynt, bu 8 gwahanol faes yn cael eu hystyried, ond eleni, mae 9fed ffactor wedi’i ychwanegu. Yna, caiff y sgoriau hyn eu cyfuno i roi sgôr allan o 100 sy’n creu’r safle cyffredinol. Y rhinweddau sy’n cael eu marcio yw:
- Boddhad â’r Cwrs (O ACM 2017 a 2016)
- Boddhad â’r Addysgu (O ACM 2017 a 2016)
- Boddhad ag Adborth (O ACM 2017 a 2016)
- Cymhareb Myfyriwr/Staff (O ddata’r Brifysgol)
- Gwariant y myfyriwr (O ddata’r Brifysgol, cyfartaledd 2 flynedd)
- Tariff mynediad cyfartalog (Pwyntiau UCAS cyfartalog myfyrwyr y flwyddyn 1af sy’n iau na 21 oed)
- Gwerth Ychwanegol (Mark allan o 10, mae hyn yn cymharu canlyniadau gradd gyda chymwysterau mynediad)
- Gyrfa ar ôl 6 mis (O DHLE wedi’i seilio ar raddedigion 2015-16)
- Cyfradd parhad [newydd] (mesur canran yw hwn o nifer y myfyrwyr blwyddyn 1af yn 2014 a 2015 a barhaodd gyda’u hastudiaethau yn 2015 a 2016)
Ydy’r Guardian yn gofyn i fyfyrwyr yn uniongyrchol am eu barn? Na, daw’r data a ddefnyddir ar gyfer y tabl o arolygon o fyfyrwyr sy’n bodoli yn barod fel yr ACM lle gofynnir myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf ystod o gwestiynau am eu prifysgol, cwrs, tiwtoriaid a chyfleusterau.
Ydy’r gymharedd staff/myfyriwr yn dweud wrthyf faint o amser cyswllt a gaf i gyda fy nhiwtor? Mae’r sgôr cymhareb myfyriwr/staff yn fesuriad syml sy’n edrych ar nifer yr holl staff sy’n addysgu. Felly ar gyfer llawer o sefydliadau mae hyn yn cynnwys cynorthwywyr ymchwil a myfyrwyr PhD, rhybuddia’r Guardian ei bod yn “gymhareb syml o nifer y staff i fyfyrwyr, nid yw’n adlewyrchu’n fanwl gywir dwysedd yr addysgu ac nid yw chwaith yn datgelu pwy sy’n perfformio’r addysgu”. Golyga hyn nad yw’r sgôr o reidrwydd yn adlewyrchu faint o amser cyswllt y gallwch ei ddisgwyl gyda’ch tiwtor neu arweinydd rhaglen.
Alla’i edrych ar wybodaeth pwnc? Gallwch, gallwch edrych ar y canlyniadau ar lefel clwstwr pwnc a chwrs, gyda 54 gwahanol faes pwnc i ddewis o’u plith. Yn aml, gall y canlyniadau maes pwnc hyn fod yn fwy defnyddiol am y gallent roi gwell syniad i chi o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y cwrs sydd o ddiddordeb i chi. Eleni, cafodd YDDS ganlyniadau gwych ar draws llawer o’n pynciau, porwch ein llyfryn canlyniadau isod i ddysgu rhagor.
Ymhle y daeth Y Drindod Dewi Sant eleni? Eleni, daethom yn 85fed yn gyffredinol, sy’n naid o 27 lle ers y llynedd – yn gydradd 3ydd naid fwyaf yn y DU. Daethom hefyd yn gydradd 6ed yn y DU am ‘Adborth Boddhad’. Mae ein Dirprwy Is-ganghellor, Dr Mirjam Plantinga, sy’n gyfrifol am Brofiad Myfyrwyr, wedi dweud
“Rydym yn arbennig o falch o’r canlyniadau ar gyfer y gwahanol fesurau boddhad myfyrwyr ac ar gyfer cymhareb myfyrwyr i staff. Mae’r rhain yn dangos ymrwymiad y sefydliad i ansawdd yr addysgu. Fel y gwnawn gyda phob arolwg byddwn yn edrych ar y canlyniadau i’n helpu i adnabod meysydd i’w gwella. Mae arolygon cenedlaethol yn rhoi i ni’r adborth hanfodol hwnnw i’n helpu i sicrhau ein bod yn bodloni anghenion ein myfyrwyr.”